Athrawon Yn Bwrw Ati i Ddysgu Rhaglennu Ar Ein Cwrs Technoteach

adminNewyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Unwaith eto mae gwyliau'r haf wedi dod ac mae carfan newydd o athrawon sydd wedi cofrestru ar ein cwrs Technoteach wedi dechrau datblygu eu sgiliau rhaglennu. Ar gyfer y Pedwerydd flwyddyn yn rhedeg cwrs achrededig DPP Technoteach, gwelwyd athrawon o bob cwr o Gymru yn fynychu sesiynau pythefnosol a luniwyd i wella eu gwybodaeth am gysyniadau rhaglennu a sut i gyfieithu hyn yn weithgareddau hwyliog ac effeithiol yn eu hystafelloedd dosbarth. Mae'r sesiynau ar gyfer y carfan Cynradd eleni wedi'u lleoli yng Nghaerdydd gyda 17 o athrawon o Abertawe i Gasnewydd yn edrych i wella'u sgiliau wrth baratoi ar gyfer cyflwyno gwersi yn seiliedig ar y Fframwaith Cymhwysedd Digidol newydd. Mae'r sesiynau ar gyfer y garfan Uwchradd yn cael eu cynnal yn Abertawe, ac am y tro cyntaf yn cael eu cyflwyno yn gyfan gwbl trwy'r Gymraeg gan fod yr holl athrawon ar hyn o bryd yn gweithio mewn ysgolion Cymraeg a dwyieithog. Mae'r athrawon o'r ddau garfan yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â chysyniadau rhaglennu trwy ddefnyddio ieithoedd rhaglennu Scratch a Python, gan greu adnoddau defnyddiol ar hyd y ffordd.

Caiff y cwrs ei achredu gan VTCT ac fe'i cyflwynir drwy gydol y flwyddyn academaidd (18 sesiwn diwrnod llawn) gydag athrawon yn cyfarfod unwaith bob pythefnos i ddatblygu eu dealltwriaeth o ystod o bynciau gwyddoniaeth gyfrifiadurol o roboteg i raglennu Python. Mae ffocws cryf o'r cwrs yn cynnwys paratoi cynlluniau gwaith ac adnoddau ategol fel y gall athrawon eu defnyddio ar unwaith yn eu hystafelloedd dosbarth.

Mae pob bwriad i barhau i redeg y cwrs am flynyddoedd i ddod, am fwy o wybodaeth am y cwrs, ewch i:

http://www.technocamps.com/en/news/free-accredited-cpd-opportunity-for-teachers-across-wales-2018

Yn union fel mae ein hathrawon yn mynd yn datrys heriau rhaglennu yr wythnos hon, mae miloedd o weithgareddau yn cael eu cynnal ar draws Ewrop i ddathlu Wythnos Cod yr UE. Mae Wythnos Cod yr UE yn fenter ar y cyfan sy'n anelu at ddod â chodio a llythrennedd digidol i bawb mewn ffordd hwyliog ac ymgysylltiol. Os oes gennych ddiddordeb mewn dod o hyd i ddigwyddiadau neu adnoddau defnyddiol, gallwch chi wneud hynny ble bynnag yn Ewrop yr ydych chi! 

Am ragor o wybodaeth ar Wythnos Cod yr UE, ewch i: 

https://codeweek.eu