Croeso i Technocamps
I ysbrydoli, ysgogi ac ennyn diddordeb pobl â meddwl cyfrifiadurol; a hyrwyddo cyfrifiadureg fel nodwedd sy'n sylfaen i bob agwedd ar gymdeithas fodern


Ein rhaglen
Ers 2003, mae Technocamps wedi bod yn darparu gweithdai ymarferol cyfrifiadurol i ysbrydoli, ysgogi ac ennyn diddordeb pobl ifanc. Yn benodol, yn ystod y ddwy flwyddyn ysgol rhwng 2014-2016, ar gyfartaledd darparon ni 9 awr o weithdai mewn 97% o ysgolion uwchradd a chefnogir gan y wladwriaeth yng Nghymru.
Gyda'n rhaglen Buarth Chwarae Cyfrifiadura rydym yn darparu gweithdai rhyngweithiol undydd mewn ysgolion cynradd, un dosbarth ar y tro. Yn ystod y flwyddyn ysgol 2016-2017 darparon 175 o weithdai mewn ysgolion cynradd i dros 4000 o ddisgyblion a'u hathrawon.
Gyda'n rhaglen Technoteach rydym yn darparu sesiynau hyfforddi DPP hanfodol i wella sgiliau athrawon TGCh yn y cwricwlwm cyfrifiadureg newydd. Yn benodol, rydym yn darparu cymhwyster achrededig lefel NQF, y Dystysgrif Addysgu Cyfrifiadureg. Dros y ddwy mlynedd diwethaf cyflawnwyd 31 o athrawon y dystysgrif hon yn dilyn blwyddyn lawn o weithdai Technoteach; ac mae 46 o athrawon ar hyn o bryd yn ymgymryd â hyfforddiant y dystysgrif hon yn ystod y flwyddyn ysgol 2017-2018.